6 wythnos yn unig sydd ar ôl tan gwblhau cam un a throsglwyddo estyniad newydd Ysgol Glan Clwyd. Y bwriad yw derbyn allweddi’r estyniad newydd erbyn Gwyliau’r Nadolig, a bydd disgyblion wedyn yn dechrau defnyddio’r estyniad newydd unwaith y byddan nhw wedi dychwelyd ar ôl y gwyliau.
Cam nesaf y prosiect, a fydd yn cychwyn fis Ionawr, fydd adnewyddu adeiladau presennol yr ysgol, a bydd hynny’n cael ei gwblhau fis Medi 2017.
Mae’r datblygiad hwn, sydd werth £15.9 miliwn, yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, drwy ei Raglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.