Datblygiad Ysgol Glan Clwyd ar y trywydd iawn

Mae seremoni i gofnodi’r datblygiadau diweddaraf yn Ysgol Glan Clwyd wedi cymryd lle heddiw (Dydd Gwener, 30 Medi) wrth i ran gyntaf y prosiect nesau tua’r diwedd.

Bydd y datblygiad gwerth £15.9 miliwn yn ymestyn safle’r ysgol a’i wella, i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y galw am leoedd, yn ogystal â darparu cyfleusterau newydd, modern. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

Dechreuodd Willmott Dixon, y contractwyr ar gyfer y datblygiad, y gwaith adeiladu ar y safle ym mis Tachwedd 2015. Disgwylir i gam cyntaf y prosiect mawr hwn gael ei gwblhau yn Rhagfyr 2016.

Bydd yr ail gam – ailwampio adeilad presennol yr ysgol yn dechrau yn Ionawr 2017.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s