Seremoni ‘Arwyddo’r trawst’ yn Ysgol Glan Clwyd

Mi roedd y cwblhad o’r gwaith dur ar gyfer estyniad newydd Ysgol Glan Clwyd wedi cael ei dathlu ar Ddydd Gwener 13eg o Mai. Cafodd y trawstiau olaf ei arwyddo gan ddisgyblion ac aelodau staff o Ysgol Glan Clwyd ynghyd â Chynghorwyr Sir Ddinbych, a chafodd ei ymuno gan Ann Jones AM, James Davies MP a Maer Llanelwy, Colin Hardie, er mwyn dathlu’r garreg filltir.

Mi fydd y datblygiad £15.9 miliwn yn ymestyn a gwella safle’r ysgol, er mwyn darparu ar gyfer cynnydd yn y galw am lefydd yn ogystal â darparu cyfleusterau mwy newydd a fodern. Mae’r datblygiad yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy’r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Dechreuodd Willmott Dixon, contractwyr y datblygiad, adeiladu ar y safle yn Dachwedd 2015. Mae’r estyniad newydd, sy’n gam un o’r prosiect am gael ei chwblhau ar ddechrau 2017. Mi fydd cam dau yn gweld gwaith adnewyddu yn cael ei gynnal ar adeilad gwreiddiol yr ysgol gyda’r diwrnod cwblhau wedi rhoi fel Medi 2017.

Dywedodd Cynghorwr Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet ar gyfer Addysg “Mae’n wych cael gweld sut mae’r estyniad newydd yn dod y ei flaen a bod y datblygiad o gyfleusterau newydd mor agos i gwblhad. Mae’n braf i weld y cyffro o’r disgyblion a’r athrawon wrth iddynt ddechrau delweddu lle mi fyddent yn gweithio pan fydd y datblygiad wedi’i chwblhau ac mi rydw i’n rhannu eu cyffro. Hefo’r ysgol uwchradd newydd yn Rhyl a phrosiectau diweddar arall yn ddarnau ar draws y sir, mae Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn datblygu cyfleusterau o radd uchaf ar gyfer plant a phobl ifanc o Sir Ddinbych.”

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s