Mae sesiwn galw i mewn wedi’i drefnu er mwyn arddangos cynlluniau adeiladau ysgol arfaethedig ar gyfer ysgolion Pen Barras a Stryd y Rhos ar safle Fferm Glasdir yn Rhuthun.
Mae’r Cyngor yn symud ymlaen gyda’r cynigion ac mae’r sesiwn galw i mewn, sy’n rhan o ymgynghoriad, yn rhoi cyfle i bobl weld y cynlluniau a siarad gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych a chwmni Wynne Construction parthed y datblygiad arfaethedig.
Gall pobl fynychu’r sesiwn ddydd Mawrth, Ebrill 26 ym Marchnad Ffermwyr Rhuthun rhwng 5.30pm a 7.30pm.
Am wybodaeth bellach am y sesiwn galw i mewn, ffoniwch 01824 706127 neu e-bostio: moderneiddioaddysg@sirddinbych.gov.uk