Tymor newydd, diwrnod hanesyddol i Ysgol Uwchradd y Rhyl

Mae carreg filltir arbennig wedi ei gyrraedd yn hanes ysgol uwchradd newydd yn y Rhyl – gyda’r drysau wedi agor i ddisgyblion am y tro cyntaf heddiw (Dydd Mercher).

Mae’r ysgol newydd gwerth £25 miliwn wedi cael ei adeiladu ar dir chwarae Ysgol Uwchradd y Rhyl gyda lle i 1,200 o ddisgyblion, yn ogystal â lleoliad at ddefnydd 45 o ddisgyblion o Ysgol Tir Morfa.  Mae’r prosiect wedi cael i ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Ysgolion 21ain Ganrif.

Yn ogystal â’r cyfleusterau academaidd arferol, mae gan yr Ysgol far caffi, iard adeiladu a salon trin gwallt.

Dywedodd Claire Armitstead, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Rhyl: “Mae hi’n ddiwedd cyfnod i’r hen ysgol, ond yn gychwyn cyffrous wrth i ni gychwyn pennod newydd yn hanes yr ysgol newydd.

Roedd yr hen ysgol yn llawn atgofion i genedlaethau o fyfyrwyr a staff ac mi gymerodd rai cyn-ddisgyblion y cyfle i ymweld â’r hen ysgol cyn ei chau.

“Byddwn yn gweld colled yr hen ysgol, ond rydym yn barod at gychwyn yn yr ysgol newydd.  Mae’r ymateb gan y disgyblion wedi bod yn ffantastig – mae hi wedi bod yn ddiwrnod i’w chofio ac mae’r lle yn teimlo fel ysgol, rŵan bod y disgyblion wedi cyrraedd.

Gall ein pobl ifanc gyrchu’r cyfleusterau mwyaf modern fel rhan  o’u haddysg academaidd a galwedigaethol, gan gynnig y dechreuad orau i’w haddysg a’u gyrfa yn y pen draw.”

Dywedodd Phil Thomas, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Tir Morfa: “Mae’r staff a’r disgyblion hynny o Dir Morfa sy’n symud o’n safle ar Ffordd Derwen wrth eu boddau i gael symud i mewn i’r adeilad newydd, gyda’i gyfleusterau modern fydd o fudd i genedlaethau o ddisgyblion.

“Does dim llawer o ddisgyblion sy’n cael cyfle fel hyn i symud i mewn i’r ysgol newydd sbon ac mae ein disgyblion yn falch iawn o symud i mewn gyda’i cyfoedion ar y diwrnod hanesyddol hwn. Mae’r freuddwyd o gael ysgol newydd wedi’i wireddu heddiw.”

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s