Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl derbyn gwobr fawreddog sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn adeiladu o fewn awdurdod lleol.
Derbyniodd y Cyngor y teitl Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Blynyddol Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru (CLAW) ar gyfer yr estyniad £1.3 miliwn yn Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych.
Roedd y prosiect yn cynnwys estyniad o dair ystafell ddosbarth, neuadd a llety ategol, yn ogystal ag estyniad ar wahân a oedd yn darparu derbynfa ac ystafell staff newydd. Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan dîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal mewnol Sir Ddinbych ac adeiladwyd gan Wynne Construction.
Roedd y cynllun wedi creu argraff ar y beirniaid gyda’i ffurf greadigol a gynlluniwyd i ymestyn ysgol bresennol, ynghyd â gwerth am arian trawiadol. Cafodd ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain Llywodraeth Cymru.
Cafodd yr estyniad ei greu i gwrdd â’r galw cynyddol am leoedd addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Mae’r gwaith yn golygu fod gan yr ysgol nawr le i 280 o ddisgyblion, i gwrdd â thwf yr ysgol yn y dyfodol.
Hefyd, roedd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar ddwy ystafell ddosbarth symudol, sydd wedi arwain at fwy o le ar gael yn y neuadd ar gyfer gweithgareddau ac mae hefyd wedi gwella effeithlonrwydd ynni. Roedd ymgysylltu effeithiol ac ymgynghori gydag Ysgol Twm o’r Nant a dwy ysgol arall sy’n rhannu cyfleusterau ar y safle hefyd yn hanfodol i lwyddiant y cynllun.
Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyllid, Asedau a Thai Sir Ddinbych: “Mae hwn yn gyflawniad gwych a hoffwn longyfarch y tîm cyfan ar eu llwyddiant. Mae’n anrhydedd go iawn i gael eu cydnabod am eu dull arloesol ar gyfer y prosiect hwn ac mae’r wobr hon yn cydnabod y tîm fel arweinwyr y sector yng Nghymru.
“Roedd safon y cystadlu yn uchel gydag ystod eang o brosiectau ar draws Cymru ac roedd y beirniaid yn ystyried materion fel cynaliadwyedd, ymgysylltu ac ymgynghori, iechyd a diogelwch, arloesed, canlyniadau’r prosiect, ei effaith a gwerth wrth wneud eu penderfyniad.
“Roedd y prosiect hwn yn ticio’r blychau hyn. Y canlyniad yw cyfleuster gwych i staff a disgyblion Twm o’r Nant”.
Dywedodd y Pennaeth, Nerys Davies: “Mae’r 12 mis diwethaf wedi cyflwyno her go iawn i’r ysgol o ran parhau â dyletswyddau bob dydd yn yr ysgol yn ystod y gwaith, ond mae’r cydweithrediad gan Sir Ddinbych a Wynne’s, y prif gontractwyr wedi bod yn ardderchog i sicrhau nad oedd dim gwerth o amhariad ar yr ysgol a’r trigolion lleol.
“Mae ymateb cadarnhaol gan y rhieni a chymdogion i ddatblygiad yr ysgol hyd yn hyn wedi bod yn wych ac wedi dangos ei bod yn werth mynd trwy rhai o’r anawsterau.”