Mae Ysgol Newydd y Rhyl wedi cael ei drosglwyddo i Gyngor Sir Ddinbych ar amser a nawr mae a goriadau i’r ysgol newydd.
Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg y Cabinet: “Mae’r adeilad newydd gwych yn newyddion rhagorol i genhedlaeth y dyfodol o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Y Rhyl a Ysgol Tir Morfa a fydd yn awr yn elwa o ysgol fodern, addas i’r pwrpas ac sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
“Mae’r Cyngor yn falch o fod wedi gweithio mor agos â Llywodraeth Cymru, Wilmott Dixon a chynrychiolwyr y ddwy ysgol i gyflwyno prosiect adeiladu rhagorol.
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft allweddol o sut mae Sir Ddinbych, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i wella adeiladau ysgolion ac i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn elwa o’r buddsoddiad allweddol hwn”.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.