Mae’r gwaith o godi y ffrâm ddur ar gyfer y cyfleusterau addysgu newydd yn Ysgol Glan Clwyd wedi dechrau. Bydd y ffrâm yn ffurfio rhan ganolog o’r estyniad newydd, sydd i fod i gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2016. Bydd hefyd gwaith adnewyddu o’r safle presennol yn cael ei wneud fel rhan o’r prosiect a disgwylir ei gwblhau ym mis Medi 2017.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd yr estyniad newydd yn dechrau cymryd siâp a bydd y disgyblion yn dechrau cael blas go iawn o sut y bydd y strwythur yn edrych. Cadwch i edrych ar y blog am ddiweddariadau pellach.