Ar 4ydd o Fawrth, 2016 bu cynrychiolwyr yr ysgol a’r gymuned ar daith o amgylch estyniad newydd Ysgol Gymunedol Bodnant i weld y cynnydd a oedd yn synnu gan yr hyn a welsant.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r sgaffaldau o amgylch yr adeilad wedi bod yn dod i lawr gan ddatgelu yr estyniad newydd. Mae gwaith yn parhau ar fewnosod cyfarpar a gorffeniadau yn fewnol.
Gall delweddau o’r ymweliad i’w gweld isod:
Bydd cwblhau’r adeiladu ac adnewyddu yn caniatáu i blant y Cyfnod Sylfaen i symud i’r safle oddi ar eu safle presennol ar Ffordd y Môr. Bydd yr estyniad yn cynnwys 7 ystafell ddosbarth, neuadd, ystafell gymunedol a derbyn a swyddfeydd newydd. Bydd hefyd maes parcio ar gyfer staff ac ymwelwyr newydd gyda mynediad o Ffordd Parc Bodnant.
Meddai Pennaeth Ysgol Gymunedol Bodnant, Helen Vernon, “Mae’r prosiect yn cymryd siâp ac mae pawb yn gyffrous am symud i mewn i’r adeilad newydd ym mis Medi. Gyda’r cyfnod sylfaen yn symud o safle Ffordd y Môr rydym yn edrych ymlaen at gael phawb at ei gilydd.”
Mae’r estyniad yn cael ei throsglwyddo i’r ysgol ym mis Mehefin yn barod ar gyfer staff a disgyblion i’w defnyddio o Medi 2016.