Dim ond pythefnos sydd i fynd tan fydd goriadau’r ysgol newydd yn cael eu trosglwyddo gyda’r disgyblion yn symud i’r adeilad newydd ar ôl gwyliau’r pasg.
Bydd y datblygiad £25 miliwn yn cael ei leoli ar gaeau chwarae ysgol Uwchradd Y Rhyl sydd eisoes yn bodoli, a bydd lle i 1,200 o ddisgyblion, yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion o’r ysgol arbennig gymunedol gyfagos, Ysgol Tir Morfa.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
Edrychwch ar y lluniau isod i weld sut mae pethau yn dod yn eu blaen: