Gyda trosglwyddiad yr adeilad yn dod yn nes, mae gwaith ar safle Ysgol Newydd y Rhyl yn cyrraedd y camau olaf.
Rydym yn trefnu trosglwyddo’r allweddi ar gyfer yr ysgol newydd yng nghanol mis Mawrth gyda disgyblion yn dychwelyd o wyliau’r Pasg i’r adeilad newydd.
Bydd y datblygiad £25 miliwn yn cael ei leoli ar gaeau chwarae ysgol Uwchradd Y Rhyl sydd eisoes yn bodoli, a bydd lle i 1,200 o ddisgyblion, yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion o’r ysgol arbennig gymunedol gyfagos, Ysgol Tir Morfa.
Mae rhai ystafelloedd dosbarth yn agos i fod yn barod a dangosir y lluniau isod y cynnydd hyd yma:
Mae’r gwaith ar ardal y ganolfan hamdden yn parhau gyda’r gwaith wedi ei raglennu i’w gwblhau dros yr haf. Bydd hen adeiladau’r ysgol yn cael eu dymchwel ymhellach yn ystod y flwyddyn.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.