Mae’r cyfri i lawr i drosglwyddo’r adeilad wedi dechrau dda ar safle Ysgol Newydd y Rhyl gyda gweithdy a gynhaliwyd yn yr ysgol newydd yn ddiweddar. Mae un o’r ystafelloedd dosbarth wedi ei gwblhau a’i ddefnyddio ar gyfer y diwrnod i roi syniad i gyfranogwyr o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn yr ysgol newydd. Rydym yn trefnu trosglwyddo’r allweddi ar gyfer yr ysgol newydd yng nghanol mis Mawrth gyda disgyblion yn dychwelyd o wyliau’r Pasg i’r adeilad newydd.
Bydd y datblygiad £25 miliwn yn cael ei leoli ar gaeau chwarae ysgol Uwchradd Y Rhyl sydd eisoes yn bodoli, a bydd lle i 1,200 o ddisgyblion, yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion o’r ysgol arbennig gymunedol gyfagos, Ysgol Tir Morfa.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.