Mae gwaith wedi dechrau yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, mae’r prosiect £15.9 miliwn yn cael ei ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, ac mae’n rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2017. Willmott Dixon yw’r contractwyr ac maent bellach ar y safle a chafodd hyn ei ddathlu yn ddiweddar gyda seremoni Torri’r Dywarchen. Mae manylion am y digwyddiad yn cael eu darparu isod gan un o gyn-ddisgyblion yr ysgol sydd bellach yn gweithio yma yng Nghyngor Sir Ddinbych:
Ar 3 Rhagfyr cafodd seremoni torri’r dywarchen ei chynnal yn Ysgol Glan Clwyd. Mae’r ysgol wedi tyfu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd ei hadeiladau yn mynd yn rhy fach a bregus ar gyfer ei nifer gynyddol o ddisgyblion. Gan fy mod yn gyn-ddisgybl roedd yn amlwg i mi bod yr adeilad yn hen ac angen estyniad. Wrth gerdded drwy’r ysgol unwaith eto daeth atgofion yn ôl o gael fy ngwthio drwy’r coridorau cul gan y disgyblion hŷn, rasio i’r ffreutur i ddod o hyd i sedd (rhy fach i roi lle i’r 147 o fyfyrwyr chweched dosbarth, heb sôn am y 832 o ddisgyblion eraill). Roedd pob gaeaf yn gyfnod yr oedd unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf yn ei ofni, oherwydd nid yn unig oedd yr ystafelloedd dosbarth yn oer, roedd glaw hefyd yn debygol o ddod trwodd a difetha gwaith rhywun. Gwnaeth y sïon am estyniad ledaenu fel tân gwyllt yn ystod fy ychydig flynyddoedd diwethaf fel disgybl.
Nawr fy mod yn brentis modern yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, rwyf yn gallu gweld y prosiect ar waith. Yn ystod y seremoni torri’r dywarchen, cafwyd areithiau gan brifathro’r ysgol, cynghorwyr a rhai sy’n gweithio i Wilmott Dixon. Yna aethom allan i weld gosodiad yr estyniad, gofyn cwestiynau a thynnu lluniau a gafodd eu harddangos yn y Daily Post. Rhoddodd hyn y cyfle perffaith i gael ychydig o luniau gyda fy hen athrawon. Bydd gan yr ysgol nawr mwy o le ar gyfer y nifer gynyddol o ddisgyblion, gan gynnwys ffreutur mwy lle gall pobl eistedd i lawr i fwyta, a gwell cyfleusterau ac ystafelloedd dosbarth. Bydd yr estyniad newydd yn llwyddiant mawr, gan ddenu hyd yn oed mwy o ddisgyblion i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
gan Shannon McGuire