Ysgol Gymunedol Bodnant

Ar 16eg o Hydref, 2015 cynhaliwyd seremoni lofnodi colofn yn Ysgol Gymunedol Bodnant i ddynodi camau olaf y gwaith codi dur strwythurol. Roedd yr  ymwelwyr â’r safle ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, Ann Jones AC, James Davies AS, Dirprwy Faer Cyngor Tref Prestatyn y Cynghorydd Bob Murray ynghyd ag aelodau o’r Corff Llywodraethol ar gyfer yr ysgol. Ar gyfer y Llywodraethwyr, hwn oedd y cyfle cyntaf i archwilio’r gwaith adeiladu cyffrous a fydd yn trawsnewid yr ysgol. Roedd y digwyddiad yn cynnwys taith o amgylch y safle adeiladu a chyflwyno capsiwl amser. Yn ddiweddarach yn y prosiect, bydd y capsiwl amser (a ddarperir gan Read Construction) yn cael ei gladdu ar y safle ar ôl i ddisgyblion yr Ysgol ei lenwi gyda eitemau sy’n adrodd hanes yr ysgol, yr ardal leol a bywyd yn 2015. Bydd y capsiwl yn parhau wedi ei gladdu am oes weithredol yr adeilad, a bydd ei ddatgladdu yn rhoi blas o fywyd fel yr oedd yn 2015 i ddisgyblion yfory.

Mae delweddau o’r seremoni arwyddo colofn i’w gweld isod:

Ar ddydd Llun 16eg o Dachwedd cymerodd y Gweinidog Addysg,  Huw Lewis AC y cyfle i ymweld â’r safle adeiladu yn ystod ei ymweliad ag Ysgol Gymunedol Bodnant i weld eu rhaglen cynhwysiant. Trefnwyd yr ymweliad gan Ann Jones AC.

Gweler y llun isod y Gweinidog yn ychwanegu ei enw at y golofn:

H Lewis Bodnant

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s