Mae cynnydd da wedi ei wneud ar Ysgol Newydd Y Rhyl fel yr ydym yn cyrraedd y garreg filltir o flwyddyn ers i Willmott Dixon ddechrau ar y safle. Rydym yn falch i adrodd bod y gwaith yn parhau ar amser gydag adeilad newydd yr ysgol yn barod i groesawu disgyblion Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa ar ol gwyliau’r Pasg y flwyddyn nesaf.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
Gweler y lluniau isod i weld sut mae’r adeilad yn symud yn ei flaen.