Ysgol Dewi Sant

Mae gwaith ar fin dechrau ar gynllun rheoli traffig gwell yn Ysgol Dewi Sant, y Rhyl. Bwriad y cynllun yw gwahanu cerddwyr a cherbydau, creu man gollwng/casglu ar gyfer rhieni a chyfleuster tebyg ar gyfer bysiau. Mae’r cynllun hefyd yn cynnig darparu mannau parcio ychwanegol ar gyfer staff ac ymwelwyr o flaen yr ysgol.

Mae’r contractwr, E. Jones a’i Fab o Glawddnewydd, wedi ei benodi a bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ddydd Llun 10 Awst. Bydd y gwaith yn cymryd tua 10 wythnos, a’r dyddiad cwblhau cytunedig yw 19 Hydref.

Bydd mynediad cerdded a cherbydau i staff, rhieni, disgyblion ac ymwelwyr yn cael ei gynnal yn ystod y gwaith adeiladu.

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s