Croesawodd ddisgyblion Ysgol Gymunedol Bodnant ym Mhrestatyn ymwelydd anghyffredin yr wythnos hon, Ivor Goodsite (Cynllun Adeiladwyr Ystyriol). Daeth i weld plant Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i gyflwyno neges diogelwch pwysig.
Ymunodd Ivor Richard Smart, Rheolwr Contractau o Read Construction. Cyflwynodd Richard gyflwyniad am beryglon safleoedd adeiladu a’r gweithdrefnau sydd ar waith i helpu i gadw yn ddiogel. Meddai Richard, ‘Mae diogelwch y safle yn hanfodol ac mae’n arbennig o bwysig wrth weithio ar safle ysgol pan fo’r plant yn yr ysgol. Mae Ivor yn ein helpu i gael y neges diogelwch ar draws mewn ffordd y plant yn deall.’
Dywedodd Helen Vernon, pennaeth Bodnant, ‘Roedd y plant yn gwrando yn dda ac yn gofyn llawer o gwestiynau ynghylch y adeiladu. Roedd hyn yn sgwrs gwerth chweil i helpu’r plant i deal pwysigrwydd diogelwch gyda safle adeiladu mor agos’
Mae Read Construction yn gwneud cynnydd da gyda’r maes parcio staff ac ymwelwyr newydd ac uwchraddio’r gegin. Mae gwaith ar yr estyniad newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ar fin dechrau ym mis Mai/Mehefin.
Mae’r prosiect estyniad ac ailwampio Ysgol Gymunedol Bodnant yn cael ei ariannu ar y cyd gan Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Rhaglen Addysg.