Mae Cabinet Sir Ddinbych wedi cytuno i gefnogi Achos Busnes Terfynol, a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, am fuddsoddiad o £16 miliwn yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Dyma fydd prosiect allweddol nesaf Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Sir Ddinbych.
Yn ystod y 7 mis diwethaf mae Sir Ddinbych wedi gweithio mewn partneriaeth â’r ysgol i ddatblygu cynlluniau cychwynnol ar gyfer y prosiect allweddol i ymestyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg gogledd Sir Ddinbych. Bydd y prosiect yn cynnwys estyniad sylweddol i’r ysgol, dymchwel elfennau o’r safle presennol ac adnewyddu’r adeiladau a gedwir, gan gynnwys y rhannau brics coch Fictoraidd gwreiddiol.
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cyngor Llawn ym mis Ebrill pan fydd gofyn i Gynghorwyr gadarnhau eu buddsoddiad o £8.4 miliwn yn y prosiect.
Croesawodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg y penderfyniad a dywedodd: “Mae Sir Ddinbych wedi gweithio’n llwyddiannus gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gynyddu’r capasiti ar gyfer disgyblion cynradd sy’n mynychu ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg fel Ysgol y Llys ym Mhrestatyn ac Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych.
“Y prosiect hwn yw’r cam nesaf i sicrhau bod yna ddigon o le ar gyfer y nifer cynyddol o blant sy’n gadael yr ysgolion hyn ac yn mynd i’r ysgol uwchradd hon. Rydym ni’n gobeithio y bydd Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn cydnabod ymrwymiad cryf Sir Ddinbych i ymestyn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac y bydd yn cadarnhau eu buddsoddiad o £7.5 miliwn yn y prosiect hwn.”