Mae gwaith wedi dechrau i greu safle unigol ar gyfer Ysgol Gymunedol Bodnant ym Mhrestatyn.
Mae Read Construction, cwmni o Ogledd Cymru, wedi dechrau ar y gwaith ar y safle ar 16 Chwefror; i gyd-fynd â hanner tymor. Bydd y gwaith cychwynnol yn gweld creu compownd y safle, mynedfa newydd oddi ar Ffordd Parc Bodnant, ffordd fynediad y safle a maes parcio newydd i staff ac ymwelwyr. Disgwylir i’r gwaith ar yr estyniad newydd ei hun ddechrau ym mis Mai eleni. Disgwylir y bydd y prosiect wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf 2016.
Ariennir y prosiect gan Gyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth gyda Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru i’r gwerth o tua £3.4m. Bydd y prosiect yn caniatáu i’r Cyfnod Sylfaen, sydd ar hyn o bryd ar Marine Road, symud i safle Cyfnod Allweddol 2 ar Ffordd Llys Nant.
Bydd yr estyniad newydd i adeilad Cyfnod Allweddol 2 yn darparu 7 dosbarth, neuadd, ardal dderbynfa, swyddfa’r pennaeth a swyddfa weinyddol. Mae hyn yn ogystal â’r gwaith ailfodelu yn adeilad cyfredol Cyfnod Allweddol 2. Bydd y prosiect yn darparu amgylchedd dysgu’r 21ain ganrif o safon ar gyfer y disgyblion a’r staff.
Dywedodd Helen Vernon, pennaeth yr ysgol, “Rwy’n falch iawn fod y gwaith wedi dechrau. Bydd y prosiect yn uno’r ysgol ac yn darparu amgylchedd dysgu gwych. Bydd y cynlluniau ar gyfer yr estyniad ac ailfodelu yn darparu amgylchedd gwych ar gyfer y disgyblion a’r staff. Bydd yr ysgol orffenedig yn ased i’r gymuned leol.”
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg y Cyngor, “Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer yr ysgol a’r gymuned leol. Mae’r buddsoddiad yn ardal Prestatyn yn arddangos buddsoddiad y Cyngor mewn adeiladau ysgol yn ystod cyfnod ariannol anodd i’r Cyngor.”
Bydd y prosiect hefyd yn creu mynedfa newydd o Ffordd Parc Bodnant, gan arwain at faes parcio newydd ar gyfer staff ac ymwelwyr. Bydd hyn yn ein galluogi i ddefnyddio’r maes parcio staff presennol oddi ar Ffordd Llys Nant fel ardal i rieni ollwng eu plant. Bydd y gofodau parcio ychwanegol i rieni a system ollwng gylchol yn cynorthwyo i reoli traffig o amgylch yr ysgol yn ystod adegau prysur.