Bydd trigolion lleol a rhieni disgyblion Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, yn cael cyfle arall i roi sylwadau ar gynigion ar gyfer yr estyniad a’r gwaith adnewyddu a gynlluniwyd, y bwriedir eu cynnal yn yr ysgol. Bydd y prosiect hwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Rhaglen Addysg.
Cynhaliwyd y digwyddiad galw heibio cyhoeddus cyntaf ym mis Tachwedd, ac mae’r adborth a gafwyd gan y digwyddiad hwn wedi helpu i ddatblygu’r dyluniad a’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol ymhellach.
Bydd y cynlluniau diweddaraf yn cael eu harddangos yn Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd ar ddydd Mercher 4 Mawrth rhwng 5:30pm ac 8:00pm. Bydd cyfle hefyd i weld y cynllun arfaethedig ar gyfer dargyfeirio’r llwybr cyhoeddus ar y safle.