Mae Cabinet Aelodau Etholedig Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Esgobaethol Addysg Statudol Llanelwy yn ddiweddar wedi cymeradwyo ymgynghori ynglŷn â dau gynnig. Y cynnig cyntaf yw cau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn a’r ail gynnig yw agor yr Ysgol fel un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, categori 2 (Ysgol Gynradd Dwy Ffrwd) ar y ddau safle presennol.
Mae’r ymgynghoriad yn dechrau ar 3 Chwefror 2015. Mae’r Ddogfen Ymgynghori yn cynnwys manylion y cynigion, a phe bai’r rhain yn cael eu rhoi ar waith byddai Ysgol ardal newydd ar y safleoedd presennol o 1 Medi 2016. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i’r cyhoedd gael manylion am y cynigion ac yn gyfle i’r Esgobaeth a’r Cyngor wybod beth yw barn y cyhoedd. Mae’n gyfle hefyd i bobl gyflwyno syniadau eraill i’w hystyried.
Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn dod i ben ar 16 Mawrth 2015.
Mae’r Ddogfen Ymgynghori a’r ffurflen ymateb ar gael yn adran ‘Addysg – Adolygu ein Hysgolion’ ar wefan y Cyngor www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau
Nid oes penderfyniad wedi ei wneud ac rydym ni’n croesawu eich barn ar y Cynnig ac unrhyw awgrym arall.