Mae’r gwaith adeiladu Ysgol Newydd Rhyl yn mynd ymlaen yn dda. Dechreuodd Willmott Dixon, y contractwr ar y safle ym mis Hydref 2014 ac mae’r wythnosau diwethaf wedi gweld gwaith gosod pileri yn mynd yn dda gyda dros hanner o’r 300 piler yn y ddaear. Bydd yr elfen hon o’r gwaith yn cymryd pythefnos arall i’w orffen. Hoffwn ymddiheuro i drigolion lleol am y sŵn ar aflonyddwch y mae’r gwaith wedi ei achosi.
Bydd y datblygiad £25 miliwn yn cael ei leoli ar gaeau chwarae ysgol Uwchradd Y Rhyl sydd eisoes yn bodoli, a bydd lle i 1,200 o ddisgyblion, yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion o’r ysgol arbennig gymunedol gyfagos, Ysgol Tir Morfa.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.