Daeth yr haul allan yr wythnos ddiwethaf yn y sermoni torri’r dywarchen swyddogol ar safle datblygiad ysgol newydd y Rhyl. (Dydd Llun y 10fed o Dachwedd)
Bydd y datblygiad £25 miliwn yn cael ei leoli ar gaeau chwarae ysgol Uwchradd Y Rhyl sydd eisoes yn bodoli, a bydd lle i 1,200 o ddisgyblion, yn ogystal â darparu canolfan ar gyfer 45 o ddisgyblion o’r ysgol arbennig gymunedol gyfagos, Ysgol Tir Morfa.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd ar sail 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Raglen Gyfalaf Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
Dechreuodd contractwr yr ysgol newydd sef Willmott Dixon ar y safle yn Hydref 2014, a bydd yr ysgol newydd yn agor ei drysau i ddisgyblion ddechrau 2016. Bydd dymchwel adeiladau’r ysgol bresennol a gweddill y gwaith allanol i’r ardaloedd chwaraeon/ chwarae yn dechrau unwaith y bydd adeilad yr ysgol wedi’i orffen a’r cyfan wedi’i gwblhau yn rhan olaf 2016.
Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg y Cabinet ”Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn hanes yr ysgol newydd. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y safle, ond rydym yn awyddus i nodi’r garreg filltir bwysig hon gyda seremoni torri tywarchen swyddogol. Mae’r ysgol newydd yn newyddion gwych ar gyfer cenedlaethau disgyblion y dyfodol, yn ogystal ag adfywiad parhaus Y Rhyl. Mae’r cyfleusterau diweddaraf a fydd yn cael eu darparu yn yr ysgol newydd yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu’r dechrau gorau posibl i’n plant a’n pobl ifanc mewn amgylchedd modern”.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau: “Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl yn wych ar gyfer cenedlaethau disgyblion y dyfodol, staff a’r gymuned ehangach. Mae ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ddatganiad gwirioneddol o’n cred yn ein pobl ifanc. Rydym wedi ymrwymo i roi’r cyfle gorau posibl iddynt gael mynediad i’r cyfleusterau diweddafaf, fydd, yn eu tro, yn eu helpu i gyflawni eu llawn botensial”.
How do I get these updates in english… I don’t want welsh which wS sent to me
Thank you kindly in advance
A reese
Sent from my iPhone
>
Hi Angela
You received welsh as you chose to follow the welsh version of the blog. Unfortunately i cannot change your settings to English. I suggest you click to follow on the english version of the blog and try and unfollow the welsh one. Hope this makes sense. Thanks.