Bydd trigolion lleol a rhieni disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn cael eu cyfle cyntaf i roi eu sylwadau am estyniad ac ailwampio arfaethedig yr ysgol.
Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r prosiect hwn ar y cyd fel rhan o raglen Ysgolion ac Addysg yr Unfed Ganrif ar Hugain.
Hefyd bydd cyfle i weld y dewisiadau a gynigir i symud y llwybr cyhoeddus sydd ar y safle.
Mae Martin Davies, Pennaeth Ysgol Glan Clwyd yn annog pawb sydd â diddordeb i ddod i’r digwyddiad hwn. Dywedodd: “Mae’r prosiect hwn yn dechrau pennod gyffrous yn hanes yr ysgol. Mae’n bwysig yn y cyfnod cynnar hwn bod cymaint o bobl â phosibl yn mynegi eu barn am y cynlluniau cychwynnol i symud y datblygiad newydd yn ei flaen.”
Bydd y cynlluniau i’w gweld yn Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd nos Fercher, Tachwedd 19 rhwng 5.30 ac 8 o’r gloch.