Mae’r gwaith adeiladu yn mynd i ddechrau yr wythnos yma ar safle Ysgol Newydd y Rhyl. Bydd y datblygiad gwerth £25m yn cael ei leoli ar gaeau chwarae presennol Ysgol Uwchradd y Rhyl, a bydd lle i 1,200 o ddisgyblion yn ogystal â lleoliad ar gyfer 45 o ddisgyblion o’r ysgol arbennig gymunedol gyfagos, Ysgol Tir Morfa. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Rhaglen 21ain ganrif Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ysgol newydd yn barod i agor ei drysau i’w myfyrwyr yn gynnar yn 2016. Bydd gwaith dymchwel adeiladau presennol yr ysgol a’r gwaith allanol sydd ar ôl yn yr ardaloedd chwaraeon/chwarae yn dechrau pan gwblheir yr ysgol newydd ac maen nhw i’w cwblhau tua diwedd 2016.
Meddai y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg “Mae hi’n gyffrous gweld y prosiect arwyddocaol hwn yn dechrau ar y safle, ac mae’n newyddion gwych i’r ysgol ac i dref Rhyl yn ei adfywiad parhaus. Mae’r cyfleusterau o’r radd flaenaf fydd yn cael eu darparu yn yr ysgol newydd yn dangos ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych i fuddsoddi yn ysgolion y sir.”
O ran gwasanaethau yn y ganolfan hamdden, ni fydd y mynediad yn cael ei effeithio a bydd yn gweithredu yn ôl yr arfer. Bydd pob pwynt mynediad cyfredol i’r ysgol a’r ganolfan hamdden yn cael eu cynnal.
Cadwch lygad ar wefan Sir Ddinbych, y blog addysg, gwefan yr ysgol a’r hysbysfwrdd yn y ganolfan hamdden am y newyddion diweddaraf ar sut mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn ystod y misoedd nesaf.