Mae gwaith ar fin dechrau i wneud gwelliannau i ardal parcio Ysgol Gynradd Llywelyn, y Rhyl. Bydd y cynllun yn cael ei wneud mewn 2 gam gyda’r cam cyntaf yn cael ei gwblhau cyn i’r plant ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi. Bydd y cam cyntaf yn gwella’r maes parcio presennol trwy farcio llefydd parcio a dynodi llwybrau troed a mannau croesi yn glir.
Yr ail gam yw creu ardal parcio newydd i staff ac ymwelwyr gyda thua 30 o lefydd parcio ar safle’r ysgol. Ar hyn o bryd dim ond glaswellt yw’r ardal ac nid oes unrhyw ddefnydd iddo gan yr ysgol. Y gobaith yw cwblhau’r gwaith erbyn hanner tymor mis Hydref.
Bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ysgol gan y bydd hefyd yn helpu gyda llif y traffig yn ystod cyfnodau prysur fel amser mynd adref o’r ysgol. Bydd hefyd yn helpu gyda’r sefyllfa parcio o gwmpas yr ardaloedd preswyl cyfagos.