Mae gwaith yn datblygu yn dda gyda’r estyniad 9 ystafell ddosbarth yn Ysgol y Llys, Prestatyn. Ariennir y prosiect £2.9 miliwn hwn gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Cafodd staff a llywodraethwyr daith o amgylch yr ysgol yn ddiweddar ac roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.Disgwylir y bydd yr estyniad newydd yn cael ei drosglwyddo ddechrau mis Mehefin, ac y bydd pawb yn symud i’r dosbarthiadau newydd yn ystod Mehefin a Gorffennaf, cyn gwyliau’r haf.
Mae’r gwaith pellach i gwblhau ailwampio’r ail lawr yn yr adeilad presennol hefyd yn datblygu yn dda, a bydd yr ardaloedd hyn, yn ogystal â pheth gwaith ailfodelu i’r llawr cyntaf wedi’u cwblhau erbyn mis Awst.Bydd elfennau terfynol y gwaith yn cynnwys creu ardal ddanfon newydd ar y safle; bydd yr ardal hon yn barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd ym mis Medi.