Mae disgwyl y bydd y prosiect £1.4 miliwn i ymestyn Ysgol Twm o’r Nant yn cael ei gwblhau ym mis Awst 2014, mae hyn wedi cael ei hariannu gan Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.
Mae’r gwaith adeiladu wedi ei rannu’n ddwy ran. Yn yr estyniad ym mlaen yr ysgol bydd derbynfa newydd a fydd yn cynnwys ystafell newydd i’r staff, ystafell aros, ystafell gyfarfod, swyddfa i’r Pennaeth a swyddfa weinyddol.
Gwaith ar y safle:
Mae’r estyniad yng nghefn yr ysgol yn cynnwys neuadd ysgol newydd a 3 ystafell ddosbarth newydd. Mae’r estyniad yn y cefn wedi cymryd peth o gae chwarae’r ysgol ac o ganlyniad mae’r pridd a gloddiwyd wedi cael ei gadw ar y safle a’i ddefnyddio i wella gweddill y cae. Mae’r cam hwn hefyd wedi gwneud i ffwrdd â’r angen i gludo 4000 tunnell fetrig o bridd o’r safle gan osgoi cost amgylcheddol sylweddol ac aflonyddwch i drigolion lleol.
Gwneir yr holl waith yma tra bo tair ysgol yn parhau i fod ar agor ar yr un campws. Mae’r cwmni adeiladu wedi cydymffurfio â chyfyngiadau safle llym sy’n cyfyngu ar fynediad pan fydd disgyblion yn cyrraedd ac yn gadael y safle.
Mae gwaith caled y cwmni adeiladu wedi cael ei gydnabod gan reolwr y safle a dyfarnwyd Gwobr Contractwr Ystyriol iddynt am Berfformiad y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth.
Disgyblion yn cael cipolwg ymlaen llaw fis diwethaf: